
"Mae 'na undod gwych i'r gyfrol, nes i wirioneddol fwynhau hon. Mae Caryl Lewis wir wedi darganfod ei llais." Bethan Mair Straeon yn ymwneud â natur, perthynas dyn â'i gyd-ddyn, henaint, cariad a cholled sydd yma. Mae pob stori, fel y stori deitl, yn mynd i'r afael â chnewyllyn perthynas y cymeriadau â'i gilydd.